Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mercher, 21 Mawrth 2018
Amser:
09.30 -
12.07
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4607
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Dai Lloyd AC (Cadeirydd) Dawn Bowden AC Jayne Bryant AC Angela Burns AC Rhun ap Iorwerth AC Caroline Jones AC Julie Morgan AC Lynne Neagle AC |
Tystion: |
Yr Athro Ann John, Prifysgol Abertawe Sara Mosely, Mind Cymru Glenn Page, Mind Cymru Dr Alys Cole-King, Connecting with People Alex Cotton, Connecting with People Stephanie Hoffman, ProMo-Cymru Nicola Simms, ProMo-Cymru Ged Flynn, Papyrus |
Staff y Pwyllgor: |
Catherine Hunt (Ail Glerc) Tanwen Summers (Dirprwy Glerc) Philippa Watkins (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gadeirydd y Grŵp Cynghori Cenedlaethol ar atal hunanladdiad a hunan-niweidio.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Mind Cymru a Connecting with People.
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o ProMo-Cymru a Papyrus.
5.1a Nododd y Pwyllgor y papur gan Yr Athro Ann John, Athro mewn Iechyd y Cyhoedd a Seiciatreg, Prifysgol Abertawe, a Chadeirydd y Grŵp Cynghori Cenedlaethol ar atal hunanladdiad a hunan-niweidio ar y Gronfa Gwybodaeth am Hunanladdiad - Cymru.
5.2a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Dr Rebecca Payne, Cadeirydd, Coleg Brenhinol Meddygon Teulu Cymru mewn perthynas â sesiynau tystiolaeth y Pwyllgor ar 7 Mawrth 2018 ar Gaffael Contractau Fframwaith Systemau GMS a Rhestri Cyflawnwyr Meddygol Cymru Gyfan.
5.3a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas â Chaffael Contractau Fframwaith Systemau GMS.
6.1 Penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
7.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
8.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ddrafft at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas â Chaffael Contractau Fframwaith Systemau GMS a'i chytuno.
9.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ddrafft at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas â Rhestri Cyflawnwyr Meddygol Cymru Gyfan a'i chytuno.